Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
Mae'r adroddiad hwn yn argymell ychwanegu Rheol Sefydlog 12.3A newydd i roi'r pŵer i'r Llywydd adalw'r Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys, ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes.
Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.
Cynnwys
2. Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12, a nodiadau esboniadol
Atodiad B – Rheol Sefydlog 12, fel y'i diwygiwyd
1. Mae Rheol Sefydlog 12.3 yn darparu:
Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.
2. Mae Rheol Sefydlog 34.9 yn gwneud darpariaethau dros dro i hwyluso parhad busnes y Senedd yn ystod yr achosion o COVID-19 ond bydd yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Mae’r Rheol Sefydlog yn datgan:
Caiff y Llywydd, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
3. Trafododd y Pwyllgor Busnes amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwygio darpariaethau adalw’r Senedd, gan gynnwys: gwneud y ddarpariaeth yn Rheol Sefydlog 34.9 yn barhaol a’i hehangu er mwyn galluogi'r Llywydd, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes i adalw'r Senedd am unrhyw fater; neu ei gwneud yn ofynnol i adalw ar gais nifer penodedig o Aelodau.
4. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes gynnig Rheol Sefydlog newydd a fyddai’n galluogi’r Llywydd i adalw’r Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys, yn amodol ar ymgynghori â’r Prif Weinidog a’r Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd y ddarpariaeth newydd hon yn ategu'r ddarpariaeth bresennol lle gellir adalw'r Senedd ar gais y Prif Weinidog.
5. Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 9 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B.
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12, a nodiadau esboniadol
Cyfarfodydd Llawn |
Cadw'r pennawd |
12.3 Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Cynhwysir y Rheol Sefydlog er gwybodaeth |
12.3A Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru a’r Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys. |
Mewnosod Rheol Sefydlog newydd Byddai'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn galluogi'r Llywydd i adalw'r Senedd ar ôl ymgynghori â'r Prif Weinidog a'r Pwyllgor Busnes. |
Atodiad B – Rheol Sefydlog 12, fel y'i diwygiwyd
12.3 Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar gais Prif Weinidog Cymru, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.
12.3A Os na fydd cyfarfod llawn wedi'i amserlennu ar gyfer dyddiad neu amser penodol caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru a’r Pwyllgor Busnes, gynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys.